Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Chwefror 2023
Amser:
14. -
15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13215
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Joel James ar gyfer y rhan gyhoeddus
o’r cyfarfod am resymau y tu hwnt i'w reolaeth.
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra'n aros am y drafodaeth sydd i fod i gael ei chynnal ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror.
2.2 P-06-1315 Rhoi'r gorau i’r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebydd yn datgan yn ei ohebiaeth fod y broses o allanoli gwasanaethau Plas Menai i Legacy Leisure wedi dechrau ar 1 Chwefror a'i fod yn deall na all y Pwyllgor wneud rhagor o waith ar y mater.
Yn sgil hyn cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o’r mater.
2.3 P-06-1316 Ailenwi ‘Wales’, gan ddefnyddio ei henw gwreiddiol, sef Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried safbwynt clir a chadarn y Llywodraeth i barhau i gyfeirio at ein cenedl yn ei dwy iaith swyddogol, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.4 P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy
Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cwrdd â'r deisebydd ar rai achlysuron.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes bod y gyllideb derfynol a’r setliad Llywodraeth Leol yn cael eu cyhoeddi.
2.5 P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb ac adroddiad ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Caerdydd.
Nododd y Cadeirydd hefyd ddeiseb debyg ar y mater a lansiwyd ar wefan Change.org ac a gasglodd 21,790 o lofnodion.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd gyda nifer o gwestiynau sydd wedi codi yn sgil gwaith ymgysylltu diweddar y Pwyllgor ar y mater.
3.2 P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra'n disgwyl am gyfarfod Grŵp Cynghori'r Gweinidog sydd i fod i gael ei gynnal ym mis Mawrth/Ebrill eleni, a gofyn i Lywodraeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn hyn.
3.3 P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Epilepsy Action Cymru.
Diolchodd yr Aelodau i’r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o'r mater, gan ei longyfarch hefyd.
3.4 P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb ar agor a'i haildrafod pan gaiff y Cynllun Iechyd Menywod ei ddatblygu a’i gyhoeddi. Nododd yr Aelodau hefyd pa mor ysbrydoledig y mae’r deisebydd Beth Hales wedi bod gyda’i hymgyrchu a’i hymgysylltiad ar y mater hwn.
3.5 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ailedrych arni pan ddaw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor i law.
3.6 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w haildrafod pan fydd yr Aelodau wedi cael cyfle i ystyried yr ohebiaeth gan y deisebydd.
3.7 P-06-1288 Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ailedrych arno ymhen chwe mis ac adolygu'r cynnydd a wnaed.
3.8 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod Rhwydwaith Canser Cymru a gynhaliwyd ym mis Ionawr ac i ofyn am eglurhad pellach ar rai o'r prif faterion a godwyd. Hefyd, nododd y Pwyllgor fod y deisebydd wedi ysbrydoli nhw wrth iddi frwydro am well cymorth i eraill, fel hithau, sy’n datblygu canser y fron metastatig, er gwaethaf ei heriau iechyd ei hun.
3.9 P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn pa asesiad a wnaed o’r Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant diweddaraf, a beth maent yn eu datgelu am gyflwr y ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru.
3.10P-06-1304 Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra’n disgwyl i ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ddigartrefedd gael ei gyhoeddi ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
5 Data Deisebau
Rhoddodd Daf ap Moris drosolwg o’r gwaith dadansoddi ar ddata deisebau.
6 Adroddiad drafft - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Cytunwyd ar yr adroddiad drafft.